Croeso i Her Iechyd Powys
Mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ymrwymo i gydweithio â’i gilydd, ac maent yn cydnabod bod dull cryf o weithredu mewn partneriaeth rhwng y ddau sefydliad lleol allweddol hyn yn ganolog i ddatblygu a gwireddu gweledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhowys, gan weithio gyda phobl leol.
Caiff yr ymrwymiad hwn i gydweithio ei ategu gan yr egwyddorion allweddol canlynol:
| cyflwyno gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles sydd o ansawdd uchel, sy’n ddiogel ac yn gynaliadwy, ac sy’n diwallu anghenion unigolion mor lleol ag sy’n bosibl | |
| tymrwymo i ymgysylltu’n barhaus ac yn ystyrlon â chymunedau lleol a rhanddeiliaid eraill wrth gynllunio, comisiynu a chyflwyno modelau gwasanaeth newydd | |
| cydnabod yr angen i fod yn dryloyw ac yn agored wrth rannu gwybodaeth â phob rhanddeiliad a rhwng pob rhanddeiliad, er mwyn sicrhau bod pawb yn deall y materion sydd dan sylw a’r heriau sydd i’w hwynebu | |
| sicrhau datganiad clir am y gwasanaethau y gellir eu darparu a’r gwasanaethau na ellir eu darparu mewn cymunedau lleol, a rhoi esboniadau clir o’r rhesymau am hynny | |
| cydnabod y bydd anghenion cymunedau unigol yn wahanol, ac na fydd ymatebion o ran gwasanaethau yr un fath ym mhob achos efallai | |
| ymrwymo i ddatblygu atebion integredig, lle caiff y ffiniau traddodiadol rhwng iechyd a gofal cymdeithasol eu dileu fwyfwy | |
| deall natur wledig Powys a’r anawsterau y mae llawer o unigolion a chymunedau’n eu hwynebu wrth geisio cael mynediad i wasanaethau |
Mae Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Powys wedi nodi’r Blaenoriaethau Strategol canlynol:
| Hybu Iechyd ac Atal Afiechyd | |
| Lleihau Anghydraddoldebau mewn Iechyd | |
| Hybu a Chynnal Annibyniaeth | |
| Gwella Dulliau o Reoli Cyflyrau Tymor Hir | |
| Sicrhau Gwasanaethau Diogel, Effeithiol a Chynaliadwy |
